Ffermio Cynaliadwy
Mae ffermio da byw ar gyfer cynhyrchu cig wedi bod yn ddiwydiant sefydledig yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Dros y blynyddoedd mae technegau ffermio wedi’u newid a’u moderneiddio. Mae iechyd a lles anifeiliaid, a chynaliadwyedd yn parhau i fod yn flaenoriaethau uchel i ffermwyr.
Mae anifeiliaid wedi cael eu bridio i gynhyrchu cig heb ormod o fraster sy’n cael effaith gadarnhaol ar ein diet a’n hiechyd.
Mae materion fel effaith cig coch ar yr amgylchedd yn bwnc llosg sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd.
Yng Nghymru, mae cig oen a chig eidion yn cael ei fagu gan fwyaf drwy ffermio nad yw’n ddwys ac sy’n dibynnu ar borfa helaeth a glaw yn hytrach na bwyd sy’n cael ei fewnforio. Mae hyn yn gwneud Cymru’n un o’r mannau mwyaf cynaliadwy ar y Ddaear i gynhyrchu cig coch.
Mae’r adnoddau isod yn rhoi fwy o wybodaeth am ‘Y Ffordd Gymreig’ o ffermio gwartheg, defaid a moch.
Resources
Fideos
We have produced a range of videos telling the story of Sustainable Welsh Farming