certifications

Coginio

Beth am Goginio?

Mae rhai rheolau sylfaenol y dylech eu dilyn cyn dechrau coginio

  • Clymwch wallt hir yn ôl.
  • Rholiwch lewys hir i fyny.
  • Tynnwch pob darn o emwaith a farnais ewinedd.
  • Gwisgwch ffedog i amddiffyn eich dillad.
  • Golchwch eich dwylo cyn, yn ystod ac ar ôl coginio, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn trin cig amrwd.
  • Sicrhewch fod eich holl gynhwysion yn barod a phwyso’r rhain, dyma beth rydych chi ei angen i wneud y rysáit.
  • Golchwch yr holl ffrwythau a llysiau yn enwedig cynhwysion salad.
  • Estynnwch yr holl offer rydych chi eu hangen yn barod cyn i chi ddechrau.
  • Golchwch eitemau miniog ar wahân – peidiwch byth â rhoi cyllyll miniog yn y bowlen golchi llestri, efallai y byddwch chi’n anghofio eu bod nhw yno ac yn brifo eich hun neu rywun arall.
  • Cerddwch, peidiwch â rhedeg yn y gegin.
  • Peidiwch â gadael yr holl olchi tan y diwedd! Golchwch a sychwch yr arwynebau gwaith wrth i chi fynd yn eich blaen.
  • Byddwch yn ofalus gyda chyllyll miniog. Os nad ydych chi wedi arfer defnyddio cyllell gofynnwch i oedolyn eich helpu neu i dorri ar eich rhan, ac i’ ddysgu’r ffordd gywir a diogel i chi dorri a sleisio – gweler isod. Gall plant ifanc gratio nionod/winwns neu foronen yn hytrach na’u torri.
  • Wrth ddefnyddio cyllell finiog defnyddiwch y dull cywir ar gyfer y bwyd rydych chi’n ei dorri. Sicrhewch fod llafn eich cyllell yn wynebu i lawr.

Daliad pont

Rhowch yr eitem fel mefus ar y bwrdd torri. Gwnewch bont drosto gyda’ch llaw – dylai eich bysedd fod un ochr a’ch bawd ar yr ochr arall. Tywyswch eich cyllell o dan y bont a thros y bwyd. Pwyswch i lawr a thynnu’r gyllell ar hyd y mefus, efallai yr hoffech feddwl am y gyllell fel trên sy’n mynd o dan y bont! Mae hyn yn addas i dorri pethau fel tatws, tomatos a courgettes.

Y Crafanc

I dorri’r stribedi courgette neu’r bwyd yn dalpiau defnyddiwch y dull crafanc. Rhowch y bwyd ar y bwrdd, gwnewch grafanc gyda’ch llaw drwy gyrlio eich bysedd yn rhannol gyda’i gilydd. Gwyrwch llafn y gyllell i lawr a sleisio drwy’r courgette gan ddefnyddio’ch bysedd/crafanc i ddal y courgette. Llithrwch eich bysedd yn ôl gan gadw gafael ar y bwyd, wrth i chi sleisio i lawr.

Ynghyd â’r sgiliau a awgrymir ar gyfer plant 3-5 mlwydd oed, gallwch nawr gyflwyno eich plentyn i dechnegau ac offer mwy cymhleth. 

  • Ar hyn o bryd, gallech feddwl am brynu cyllell i’ch plentyn wedi’i dylunio ar gyfer cogyddion ifanc neu ddefnyddio cyllell oedolyn fach.
  • Pan fyddwch yn cyflwyno offer torri miniog fel cyllyll a siswrn, dylech ystyried allu eich plentyn bob amser ac os nad ydych yn gyfforddus, yna gadewch ef am gyfnod. Mae sgiliau eraill mwy cymhleth y gallant eu mwynhau o hyd. Os ydych chi’n meddwl y gallan nhw ymdopi yna cadwch lygad arnyn nhw gan ei bod hi’n hawdd iawn llithro hyd yn oed i oedolion.

Gweithgareddau i roi cynnig arnynt gyda phlant 5 – 7 mlwydd oed

  • Torri gan ddefnyddio cyllell fach – dylai plant ddysgu sut i ffurfio eu llaw i mewn i grafanc er mwyn cadw bysedd allan o berygl, edrychwch ar ein fideo sgiliau cyllyll
  • Torri gyda siswrn – os gallwch gael siswrn llai neu siswrn plant, defnyddiwch nhw i dorri perlysiau
  • Gratio – gellir gratio bysedd yn hawdd felly cadwch lygad barcud a gwnewch yn siŵr nad ydyn nhw’n mynd yn rhy agos at ben beth bynnag maen nhw’n ei gratio
  • Mesur – gall hyd yn oed y plant ieuengaf iawn wneud hyn ond wrth i blant ddysgu darllen a gwneud mathemateg sylfaenol, mae hwn yn gyfle gwych iddynt wneud hyn gyda llai o oruchwyliaeth
  • Rhwbio i mewn – mae angen rwbio blawd a menyn i mewn gyda’r bysedd mewn llawer o ryseitiau
  • Curo a chyfuno – dangoswch i blant sut i guro cymysgedd cacennau gyda llwy bren neu gyfuno gwynnwy i’r gymysgedd heb guro gormod o aer i mewn iddo
  • Iro a leinio tun neu hambwrdd cacen
  • Plicio orennau neu wyau wedi’u berwi’n galed – gwnewch yn siŵr nad yw wyau’n rhy boeth, dylech eu rhedeg o dan y tap dŵr oer yn gyntaf a bod yn ofalus o wres gweddilliol
  • Gosod y bwrdd – anogwch nhw i werthfawrogi defod prydau teuluol

Cawl Cig Oen Cymru