certifications

Steilio Bwyd

Cyflwyniad i’r Modiwl

Mae ymddangosiad gweledol saig yr un mor bwysig â’i flas.

Nod y modiwl hwn yw helpu disgyblion i ddeall pwysigrwydd sut mae bwyd yn cael ei gyflwyno a chynnig awgrymiadau a syniadau gweledol ac enghreifftiau o sut y gellir cyflwyno a steilio bwyd.

Bydd hyn yn eu galluogi i wella sut maen nhw’n steilio ac yn cyflwyno eu seigiau.

Gweithgareddau Awgrymedig yn yr Ystafell Ddosbarth

  • Edrychwch ar y cyflwyniad powerpoint.
  • Gofynnwch i’r disgyblion ddod o hyd i 10 delwedd/ffotograff gwahanol o saig benodol e.e. – rag o Gig Oen wedi’i goginio. Defnyddiwch y rhain fel sesiwn drafod – pa ddelwedd sydd orau ganddynt? pa un sy’n edrych yn fwy deniadol? Pam mae’n fwy deniadol?  sut mae wedi cael ei steilio. Ysgrifennwch gasgliad i’r dasg beth maen nhw wedi’i ddysgu o’r dasg?
  • Gwers ymarferol – gofynnwch i’r disgyblion ddod â gwahanol bropiau i mewn i steilio’r wedi’i choginio, e.e. platiau lliw neu siâp gwahanol, clytiau – gweadau gwahanol e.e. hesian, denim. Pan fydd y saig wedi’i choginio arbrofwch gyda gwahanol steiliau cyflwyno, tynnwch luniau. Gwerthuswch y canlyniadau.
  • Anogwch y disgyblion i ymchwilio i dueddiadau bwyd cyfredol yn enwedig sut mae’r bwyd yn cael ei steilio, ei gyflwyno a sut luniau sy’n cael eu tynnu. Edrychwch ar gylchgronau bwyd, gwefannau, blogiau, llyfrau ryseitiau ac ati.

Cyflwyniad Dosbarth