ryseitiau

Stecen sbawd frith (featherblade) Cig Eidion Cymru gyda chimichurri

Time 0:30 Serves2

cynhwysion

  • 2 stecen sbawd frith Cig Eidion Cymru PGI, arwyneb wedi’i ricio ychydig
  • ½ llwy de o naddion halen
  • ½ llwy de o bupur du bras
  • 1 llwy fwrdd o olew

Ar gyfer y chimichurri:

  • 1 bwnsiad o bersli, dail gwastad
  • 1 bwnsiad o goriander
  • Nionyn coch bach, wedi’i dorri’n fan
  • 4 llwy fwrdd o olew olewydd pur iawn –
  • 2 lwy fwrdd o finegr gwin coch
  • 4 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
  • ½ llwy de o naddion tsili
  • ½ llwy de o cwmin
  • ½ llwy de o halen môr
  1. Cynheswch badell ffrio. Coginiwch y stecen am 2-3 munud ar bob ochr ar gyfer cig cymedrol/gwaedlyd.
  2. Rhowch y stecen o’r neilltu am 5 munud cyn ei sleisio’n denau yn groes i’r graen.
  3. I wneud y chimichurri, cymysgwch yr holl gynhwysion mewn prosesydd bwyd am ychydig funudau.
  4. Ychwanegwch yr olew a’r halen a’r pupur.
  5. Taenwch y saws dros y stecen cyn ei gweini.

Offer

  • Bwrdd torri cig amrwd
  • Padell ffrio
  • Gefel coginio
  • Cyllell miniog
  • Bwrdd torri ar gyfer y cig sydd wedi coginio
  • Prosesydd bwyd bach
  • Dysgl weini neu llechen

Ffeithiau

Mae stecen sbawd ffrith (featherblade) neu ‘flat iron’ yn doriadau rhatach o stêc ond yn llawn blas ac yn dyner.

  • Os nad oes gennych proseswr bwyd, paratowch y winwnsyn, y tsili a’r garlleg â llaw. Cymysgwch popeth gyda’u gilydd mewn powlen cymysgu.
  • Os ydych chi’n defnyddio sgiwerau pren, rhowch nhw mewn dŵr cyn eu defnyddio fel nad ydyn nhw’n llosgi o dan y gril.
  • Ceisiwch weini gyda hwmws braster isel neu tzatziki.
  • Mae’r badell gril yn poethi felly cofiwch ddefnyddio menig popty.
  • Mae’n bwysig gorffwys eich stêc am o leiaf 5 munud cyn ei sleisio, mae hyn yn cadw’r suddion o fewn y stêc ac yn ei gwneud yn fwy tyner.