ryseitiau

Selsig ar frys

Time 0:16 Serves5

cynhwysion

  • 4 sosej (triwch rai cig oen Cymru a mintys blasus, eidion neu borc)
  • 5ml (1 llwy de) Olew
  • 1 tun bach ffa pôb mewn saws tomato 1 courgette wedi ei dorri’n giwbiau bach
  • ½ pupur coch neu oren wedi ei dorri’n giwbiau bach
  • 1 tomato mawr, wedi ei dorri’n dalpiau
  • 10ml (2 lwy de) saws chilli melys
  1. Rhowch y selsig o dan y gril, neu coginiwch nhw mewn ffwrn Nwy 5/190°C, nes eu bod wedi coginio drwyddynt, tua 10-15 munud. Oerwch am ychydig.
  2. Twymwch yr olew mewn sosban fach, ychwanegwch y pupur a’r courgette, trowch yn ysgafn am 2-3 munud i feddalu’r llysiau.
  3. Ychwanegwch y cynhwysion eraill a thwymwch nes eu bod yn grasboeth – 5 munud.
  4. Gallwch weini’r selsig a llwyaid o’r saws talpiog mewn bap neu ar gyfer parti gallwch dorri’r selsig yn dameidiau, a rhoi bowlen fach o saws a selsig i’ch ffrindie.

Pryd selsig hawdd i wneud pan fydd amser yn brin!