ryseitiau

Salad poeth llawn lles Cig Oen Cymru

Time 0:10 Serves4

cynhwysion

  • 225g stêcs coes Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster, wedi’u torri’n stribedi tenau
  • 1 llwy de olew olewydd
  • 1 llwy fwrdd saws soi – heb siwgr ac yn isel mewn halen
  • 100g quinoa
  • 2 lwy fwrdd hadau pwmpen
  • 2 lwy fwrdd hadau blodau’r haul
  • 4 betysen wedi’u coginio a’u torri’n giwbiau
  • 1 mango aeddfed, wedi’i blicio a’i dorri’n ddarnau mawr (cadwch unrhyw suddion a’u rhoi yn y salad)
  • 2 lwy fwrdd hadau pomgranad – o tua 1 ffrwyth cyfan
  • 3 llwy fwrdd perlysiau cymysg ffres – basil, cennin syfi, persli a mintys
  • Llond llaw o sbrigynnau berwr y dŵr

Offer

  • Sosban fach gyda chaead
  • Padell ffrio
  • Bwrdd torri ar gyfer cig amrwd
  • Cyllell miniog
  • Bwrdd torri ar gyfer llysiau
  • Llwyau mesur
  • Powlen cymysgu fawr a llwy
  • Dysgl weini
  1. Rhowch y quinoa mewn sosban ac ychwanegwch tua 300ml o ddŵr. Berwch a’i fudferwi am 10 munud, yna tynnwch oddi ar y gwres a gadewch y caead arno am 5 munud.
  2. Cynheswch yr olew mewn wok neu badell ffrio fawr, ychwanegwch y stribedi o gig oen a’u brownio dros wres uchel, dylai hyn gymryd tua 2-3 munud. Ychwanegwch y saws soi a gadewch i’r gymysgedd fyrlymu, tewychu a gorchuddio’r cig. Tynnwch oddi ar y gwres.
  3. Rhowch y cig oen, quinoa, hadau, betys, mango, hadau pomgranad, perlysiau ffres a berwr y dŵr mewn powlen salad fawr. Cymysgwch y cyfan yn dda a’i weini.

Ffeithiau

Mae cig oen yn naturiol yn cynnwys saith o’r fitaminiau a’r mwynau sy’n cefnogi iechyd a lles dda.

Wrth sleisio’r cig, torrwch ar draws grawn y cig i dorri i lawr y ffibrau cyhyr a’i wneud yn fwy tyner.