ryseitiau
Pastai’r bugail â sbeis Morocaidd
1:00 4
cynhwysion
- 450g o friwgig Cig Oen Cymru PGI coch
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 ewin garlleg, wedi’i wasgu
- 1 nionyn mawr, wedi’i dorri’n fân
- 2 foronen, wedi’u plicio a’u deisio’n fân
- 1 llwy de o gwmin
- 1 llwy de o bupur Jamaica
- 1 llwy de o goriander mâl
- 1 llwy de o sinamon mâl
- ½ llwy de o hadau ffenigl
- 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
- 1 llwy fwrdd o flawd
- ½ peint o stoc llysiau neu gig oen (efallai y bydd angen mwy)
- 25g o gnau pinwydd (dewisol)
- Persli wedi’i dorri i weini (dewisol)
Ar gyfer y tatws:
- 400g o datws ar gyfer berwi, wedi’u plicio a’u chwarteru
- 200g o datws melys, wedi’u plicio a’u chwarteru
- 50g o fenyn
- Ychydig o laeth neu hufen
- Halen a phupur
Offer
- Sosban gyda chaead
- Padell ffrio neu sosban fawr
- Dysgl pei
- Cyllell miniog
- Bwrdd torri llysiau
- Pliciwr tatws
- Llwy a llwy bren
- Fforch neubag peipio a ffroenell
- Berwch y tatws ac, wrth iddynt ferwi, paratowch y gymysgedd cig.
- Mewn padell boeth, ffriwch y briwgig, y nionyn a’r garlleg nes maent wedi brownio. Ychwanegwch y sbeisys a chymysgwch yn dda cyn ychwanegu’r moron a’r blawd – coginiwch am ychydig funudau yna ychwanegwch y stoc a’r piwrî. Ychwanegwch y cnau pinwydd.
- Coginiwch am 20 munud yna trosglwyddwch i ddysgl bastai.
- Pan fydd y tatws yn feddal, draeniwch ac ychwanegwch yr halen a’r pupur, y menyn a’r llaeth. Stwnsiwch nes maent yn hufennog.
- Codwch y tatws â llwy ar y gymysgedd cig neu gallwch ei beipio. Coginiwch yn y popty am 15 munud arall nes mae’r tatws wedi brownio.
Ffeithiau
Mae cig oen yn ffynhonnell gyfoethog o fitamin B12. Mae fitamin B12 yn cefnogi metaboledd arferol sy’n cynhyrchu ynni, ac yn cyfrannu at swyddogaeth arferol y system imiwnedd. Mae fitamin B12 hefyd yn helpu i leihau blinder.
Trwy beipio’r tatws byddwch yn dangos mwy o sgil.