ryseitiau

Parseli Tikka Cig Oen Cymru

Time 0:10 Serves2

cynhwysion

  • 225g (8oz) stêc coes Cig Oen Cymru wedi ei thorri’n dafelli tenau iawn
  • 5ml (1llwy de) olew
  • ½ planhigyn wy (aubergine), wedi ei dorri’n dafelli tenau
  • 1 winwnsyn, wedi ei dorri’n dafelli tenau
  • 3 madarch, wedi eu tafellu
  • 15ml (1 llwy fwrdd) pâst cyrri ysgafn
  • 15ml (1 llwy fwrdd) siytni mango
  • 1 tomato, wedi ei thafellu’n denau
  • Dyrnaid o ddail coriander ffres, wedi eu malu
  • 2 barsel tortilla blaw
  1. Twymwch yr olew mewn padell sydd ddim yn glynu neu wok. Ychwanegwch y stribedi oen, y planhigyn wy, yr winwnsyn a’r madarch a thro-ffriwch nhw nes bod y cig yn frown. Dylai hyn gymryd tua 6 munud.
  2. Ychwanegwch y pâst cyrri a’r siytni mango, trowch a choginiwch am 2 funud arall.
  3. Ychwanegwch y tomato a’r coriander.
  4. Rhowch y gymysgedd ynghanol y parseli, roliwch nhw i fyny a mwynhewch!

Mae TRO FFRIO yn golygu coginio’n gyflym dros wres uchel mewn ychydig iawn o olew, gan droi’n gyson. Ffordd iach o goginio. 

Rysait tro ffrio yw hwn y gallech ei weini mewn parseli fel y rysait yma neu gallech ei weini gyda nŵdls neu reis wedi coginio