ryseitiau
Koftas llysiau a Chig Eidion Cymru
cynhwysion
- 450g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI heb fraster
- 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n fân
- 1 foronen, wedi’i gratio
- 1 pupur coch bach, wedi’i dorri’n fân
- ½ pen brocoli (6 blodigyn), wedi’i gratio
- 1 wy bach, wedi’i guro
- 1 llwy fwrdd o sos coch
- ½ llwy de o berlysiau cymysg sych
- ½ llwy de o bupur du mâl
- Llond llaw o friwsion bara ffres (os oes angen)
- Llysiau hir i wneud sgiwers e.e. ffon seleri, darn o foron pupur, asbaragws
- Os nad oes gennych chi’r llysiau sydd ar y rhestr hon, beth am greu eich rysait eich hun gan ddefnyddio pa bynnag lysiau sydd yn eich oergell?

Yn llawn blas ond hefyd llysiau cudd ar gyfer y rheiny sy’n ffyslyd am eu bwyd! Hefyd, mae’r koftas Cymreig blasus hyn yn ffordd wych o ddefnyddio llysiau sydd dros ben a mynd i’r afael a gwastraff bwyd.
- Golchwch y llysiau a chynheswch y ffwrn i 180′
- Defnyddiwch y dull pont yn ofalus i dorri’r nionyn, pupur a’r brocoli. Defnyddiwch y dull crafanc i dorri’r foronen.
- Pwyswch y cynhwysion sy’n weddill yn ofalus.
- Cymysgwch y briwgig a’r llysiau mewn powlen ac ychwanegwch y perlysiau a’r sesnin.
- Ychwanegwch y sos coch a hann yr wy a’u troi. Ychwanegwch ragor o wy os oes angen – dylai’r cymysgedd fod yn feddal ond yn gadarn fel bod y koftas yn dal eu siap. Os bydd y cymysgedd yn rhy ludiog, ychwanegwch ychydig o friwsion bara.
- Cymerwch lond llaw ar y tro o’r cymysgedd a’i siapo o amgylch y ffyn llysiau.
- Rhowch y koftas yn yr oergell am 15 funud neu fwy.
- Coginiwch y koftas yn y ffwrn am 20 munud neu o dan y gril am 12-15 munud, yn ddibynnu ar eu trwch. Sicrhewch eu bod wedi coginio’n iawn cyn eu gweini.
- Gallwch eu gweini gyda sawsiau dip fel sos coch a dip iogwrt siarp wedi’i wneud a iogwrt naturiol, llond llaw o fintys wedi’i dorri a diferyn o saws tsili melys.
*Awgrym Ardderchog!
Gallwch ddefnyddio’r rysait yma i wneud byrgyrs blasus hefyd. Dim ond eu siapio’n gylch yn hytrach na siap kofta yng ngham 6!