ryseitiau

Katsu Cig Eidion Cymru

Time 0:35 Serves4

cynhwysion

  • 4 stecen Cig Eidion Cymru PGI, wedi’i sleisio yn denau
  • 75g o flawd plaen, wedi’i flasuso
  • 1 wy mawr, wedi’i guro
  • 75g o friwsion bara panko (neu gallwch wneud eich briwsion bara eich hun)
  • 25g o friwsion bara euraid
  • Olew ar gyfer ffrio bas

Ar gyfer y saws

  • 1 llwy de o olew llysiau
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
  • 2.5cm o wreiddyn sinsir ffres, wedi’i gratio
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 llwy fwrdd o bowdr cyrri cymedrol ei sbeis
  • 2 lwy fwrdd o flawd plaen
  • 250ml o stoc cyw iâr
  • 1 llwy fwrdd o saws soi
  • 1 llwy fwrdd o fêl
Mae’r katsu Cig Eidion Cymru yma yn rysáit gymharol hawdd i’w wneud a trwy ddefnyddio Cig Eidion Cymru, mae hefyd yn addas i’w wneud o fewn gwers 50 munud .

Mae’r rysáit hon ar flaen y gad ac yn rhoi cyfle gwych i’ch ddisgyblion ymarfer eu sgiliau cyflwyno.

Sgiliau a ddysgwyd:

  • Torri
  • Ffrio sych
  • Gwneud saws
  • Cyflwyno
  • Gorchuddio mewn briwsion bara