ryseitiau
Cyri Cig Oen Cymru gyda Thatws Melys
2:00 4
cynhwysion
- 500g o Gig Oen Cymru PGI (coes, ysgwydd neu wddf), wedi’i ddeisio
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 nionyn, wedi’i sleisio
- 2 ffon seleri, wedi’u sleisio
- 1 pupur coch, wedi’i ddeisio
- 2 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
- 1 tsili coch, heb yr hadau ac wedi’i sleisio’n denau (ddim yn angenrheidiol)
- ½ modfedd o sinsir ffres, wedi’i dorri’n fân
- 3 llwy de o bowdwr garam masala
- 2 lwy de o bowdwr tyrmerig
- 400ml tun o laeth coconyt isel mewn braster
- 1 lwy fwrdd o biwrî tomato
- 150ml o stoc llysiau neu gyw-iâr
- 2 daten felys, wedi’i deisio
- Halen a phupur
- 1 leim, croen a sudd
- Llond llaw o goriander ffres
1. Cynheswch yr olew mewn padell fawr yna ychwanegwch y cig oen a’i ffrio nes ei fod wedi brownio. Ychwanegwch y nionyn, y garlleg, y sinsir, y seleri a’r tsili a ffriwch am 2 funud.
2. Ychwanegwch y sbeisys a throwch am ychydig funudau. Ychwanegwch y llaeth coconyt, y stoc, y piwrî tomato a’r halen a’r pupur. Pan fydd wedi berwi, gorchuddiwch gyda chaead a mudferwch am 90 munud. Ychwanegwch fwy o stoc os oes angen.
3. Ychwanegwch y tatws melys a’r pupur coch a pharhewch i goginio am 30 munud neu nes mae’r tatws yn feddal.
4. I orffen – ychwanegwch y croen a’r sudd leim ac ysgeintiwch y coriander wedi’i dorri drosto.