ryseitiau

Conau Pelenni Cig Eidion

Time 0:15 Serves4

cynhwysion

  • 450g briwgig Cig Eidion Cymru
  • 1 winwnsyn bach, wedi ei dorri’n ddarnau mân
  • 5ml (1 llwy de) perlysiau cymysg sych neu gallwch ddefnyddio dyrnaid o berlysiau ffres wedi eu malu
  • pinsiad o bupur du mâl
  • ½ pupur coch, wedi ei dorri’n ddarnau bach iawn
  • 30ml (2 lwy fwrdd) sôs coch neu sôs brown
  • 4 parsel tortilla blawd
  • ychydig o ddail letus
  • tafelli tenau o giwcymbyr
  • 1 potyn bach o iogwrt plaen
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o siytni mango
  • 5 ml (1 llwy de) powdwr cyrri ysgafn
  • 4 bricyllen (apricot) sych wedi eu torri’n ddarnau mân.
  1. Rhowch y cynhwysion i gyd mewn powlen fawr a chymysgwch nhw’n dda gya’ch dwylo, gan wneud yn siwr bod y llysiau wedi eu cymysgu yn y cig
  2. Yna ffurfiwch nhw yn 12 pelen fach tua’r un maint, a choginiwch nhw ar dun pobi yn y ffwrn (Nwy 6, 200°C) neu’n araf mewn padell ffrio am tua 10-15 munud. Gwnewch yn siwr eu bod yn frown neis ac yn grasboeth yn y canol.
  3. I wneud y dip cyrri, cymysgwch yr iogwrt gyda’r powdwr cyrri mewn dysgl bach, yna ychwanegwch y bricyll a’r siytni mango. Gorchuddiwch y ddysgl a’i chadw yn y rhewgell
  4. Rholiwch tortilla i fewn i siap côn, cydiwch yn y gwaelod a lleniwch gyda salad, 3 pelen cig, a rhowch llwyaid o’r dip cyrri blasus ar ben y cwbwl.