Chow Mein Cig Eidion Cymru a llysiau
cynhwysion
- 450g stecen ffolen Cig Eidion Cymru PGI, wedi’i thorri’n sleisys tenau iawn
Ar gyfer y marinâd:
• 1 llwy fwrdd blawd corn
• 3 llwy fwrdd saws soi â llai o halen
• 4 llwy fwrdd stoc cig eidion oer
• 1 llwy de siwgr brown tywyll
• 1 llwy de o olew llysiau
• ½ llwy de pupur du
Ar gyfer y chow mein:
• 1 llwy fwrdd olew llysiau
• 3 ewin garlleg, wedi’u malu neu eu gratio
• Darn 4cm sinsir ffres, wedi’i ratio
• 2 foronen, wedi’u plicio a’u sleisio’n denau
• 150g brocoli ifanc neu flodigion brocoli
• 1 pupur coch, wedi’i sleisio’n denau
• 100g egin ffa
• 8 shibwnsyn, wedi’u plicio a’u torri
• Pecyn 400g nwdls (coginiwch yn ôl y cyfarwyddiadau) (bydd nwdls cyflawn yn rhoi mwy o ffeibr)
1.I wneud y marinâd, cymysgwch y blawd corn a’r saws soi a chwisgio nes ei fod yn llyfn. Ychwanegwch y stoc cig eidion, siwgr brown ac olew. Yna ychwanegwch y pupur du at eich dant a chwisgio’n dda. Ychwanegwch y cig a’i adael i farinadu am o leiaf awr (yn hirach os yn bosibl).
2. Gwnewch y chow mein. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr neu wok, tynnwch y cig eidion allan o’r marinâd (gan gadw’r marinâd) a browniwch y cig eidion yn y wok, yna’i drosglwyddo i blât.
3. Ychwanegwch y garlleg a’r sinsir i’r wok a’i dro-ffrio am funud. Ychwanegwch y brocoli a’i dro-ffrio am 2 funud dros wres uchel, yna ychwanegwch y moron, pupur coch a hanner y shibwns a’u troi am funud.
4. Ychwanegwch yr egin ffa a’u troi am funud. Ychwanegwch y nwdls wedi’u coginio a gweddill y marinâd a’r cig eidion. Cymysgwch yn dda dros wres uchel am ychydig o funudau nes bod popeth yn chwilboeth. Rhowch y shibwns sy’n weddill ar ben y cyfan