ryseitiau
Cebabs Cig Oen Cymru
0:10 4
cynhwysion
Ar gyfer y marinad
- 90ml (6 llwy fwrdd) olew’r olewydd
- 45ml (3 llwy fwrdd) sudd lemwn
- 1 ewin garlleg, wedi ei blicio a’i falu’n fân
- Pinsiad da o bupur du mâl
- 30ml (2 lwy fwrdd) perylsiau ffres wedi eu torri’n fân, fel basil
Ar gyfer y cebabs
- 450g Cig Oen Cymru, wedi ei dorri’n giwbiau 3cm (mae stêcs coes heb asgwrn yn ddelfrydol)
- Gwahanol lysiau o’ch dewis chi, fel ddefnyddion ni:
- 2 courgette tenau
- 1 planhigyn wy (aubergine) hir a thenau
- 16 tomato bach
- 1 pupur coch
- 1 pupur melyn
- Mewn dysgl fach cymysgwch gynhwysion y marinad gyda’i gilydd. Ychwnaegwch y ciwbiau cig, trowch yn dda, gorchuddiwch â cling film a rhowch nhw yn y rhewgell am o leia awr.
- Paratowch y llysiau, torrwch y puprau yn sgwariau 3cm, golchwch y tomatos. Tafellwch y courgettes a’r planhigyn wy ar eu hyd i wneud stribedi hir, ceisiwch eu torri’n weddol denau, tua 5mm o drwch. Rydych am i’r stribedi fod yn ddigon hir i’w lapio o amgylch ciwb o gig, trimiwch y stribedi i’r maint cywir.
- Tynnwch y cig o’r marinad a’i roi ar blât.
- Lapiwch rai o’r ciwbiau oen gyda’r darnau courgette a’r lleill gyda’r tafelli planhigyn wy, yna’n ofalus iawn (mae’r gweill yn bigog!) gwthiwch nhw ar y gweill, yna ychwanegwch y tomatos a’r pupurau fel eu bod yn edrych yn ddeniadol ac yn lliwgar.
- Cynheswch y gril ymlaen llaw, rhowch nhw ar y badell grilio a’u brwsio gyda’r marinad. (Gallwch eu coginio ar farbeicw hefyd).
- Coginiwch nhw am tua 10 munud, a’u troi nhw bob hyn a hyn i wneud yn siwr eu bod wedi coginio’n gyson
Gweinwch y cebabs gyda cholslo ffrwythau, sydd mor hawdd i’w wneud. Byddwch angen 450g (1lb) bresychen wedi ei thorri’n stribedi tenau, 1 winwnsyn bach wedi ei dorri’n ddarnau mân iawn, 1 afal wedi ei olchi a’i dorri’n giwbiau bach (gadewch y croen gan ei fod yn lliw hardd), 175g (6oz) moron wedi eu gratio, 150ml (5 fl oz) mayonnaise a dyrnaid o rawnwin wedi eu golchi a’u torri’n hanner. Cymysgwch bopeth gyda’u gilydd a’i adael yn y rhewgell nes eich bod am ei ddefnyddio.