ryseitiau

Cawl Thai gyda phorc

Time 0:15 Serves4

cynhwysion

  • 225g o ffiled canol lwyn Porc Cymru, wedi’i thorri’n giwbiau bach
  • 1 llwy de o olew
  • 2 llwy fwrdd o bast cyri Thai gwyrdd
  • 400g (neu faint tebyg) o laeth cnau coco tun â llai o fraster
  • 50g o ffa gwyrdd
  • 2 foronen, wedi’u plicio a’u torri’n stribedi tenau
  • 50g o bys snap siwgr
  • 3 shibwnsyn, wedi’u sleisio
  • 2 lond llaw o ysbigoglys
  • 50g o bys wedi’u rhewi
  • 100g o nwdls reis
  • coriander ffres
  • darnau o leim

1. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr nad yw’n glynu, yna ychwanegwch a browniwch y porc. Ychwanegwch y past cyri a’r llaeth cnau coco a mudferwch am 8-10 munud nes bod y cig yn dyner.

2. Ychwanegwch y ffa a’r moron a’u coginio am 1-2 funud.

3. Ychwanegwch weddill y llysiau a’r nwdls a chynheswch drwodd. Lletchwch mewn powlenni a gweinwch gyda darnau o leim a’r dail coriander.

Ffeithiau

Mae porc yn ffynhonnell asid Pantothenig, sy’n cefnogi perfformiad meddwl arferol a metaboledd arferol sy’n cynhyrchu ynni, ac yn helpu i leihau blinder.