Bolognaise Cig Eidion Cymru mewn tatws trwy’u crwyn
cynhwysion
Cymysgedd Bolognaise
- 450g (1lb) briwgig Cig Eidion Cymru
- 2 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu’n fân
- 1 winwnsyn, wedi ei blicio a’i dorri’n ddarnau mân
- 400g tun tomatos wedi eu torri
- 15ml (1 llwy fwrdd) purée tomato neu 30ml (2 lwy fwrdd) sôs coch
- 150ml (1/4pt) isgell (stock) eidion neu lysiau
- 5ml (1 llwy de) perlysiau cymysg Pinsiad o bupur du
Tatws
- 4 taten fawr, tua 250g yr un
- 50g menyn
- Pinsiad o bupur du
- ½ y cymysgedd bolognaise 120g caws wedi gratio
Cymysgedd Bolognaise sylfaenol
I ddechrau mae’n rhaid i chi wneud y Bolognaise Cig Eidion. Amser coginio 20-25 munud, (yna oeri ychydig cyn defnyddio).
- Rhowch y briwgig mewn sosban sydd ddim yn glynu neu wok a ffriwch yn sych am 6 munud, nes ei fod yn frown.
- Ychwanegwch y winwns a’r garlleg a choginiwch am rai munudau eto.
- Ychwanegwch y tomatos, purée neu sôs coch, isgell, perlysiau a’r pupur.
- Coginiwch yn araf dros wres isel am 15 munud.
- Gallech ei weini gyda spaghetti fel spaghetti bolognaise neu oeri’r cymysgedd ychydig i wneud pizzas bach neu datws drwy’u crwyn bolognaise.
Tatws try’u crwyn cawsiog
Yn gwneud 8 taten bôb, amser coginio 60-80 munud i’r tatws, 10-15 munud i orffen.
1. Twymwch eich ffwrn i Nwy 6/200°C.
2. Golchwch y tatws a’u pricio gyda fforc, rhowch nhw ar dun pobi a’u coginio yn y ffwrn nes eu bod wedi pobi – dylent fod yn feddal y tu mewn gyda chrwyn crensiog (tua 60-80 munud).
3. Oerwch nhw ychydig, torrwch nhw’n hanner a gan ddefnyddio llwy, rhowch y tu mewn meddal mewn dysgl fawr. Falle byddwch angen maneg ffwrn i ddal y daten.
4. Stwnsiwch y tatws, ychwanegwch y menyn a’r pupur du. Rhowch lwyaid o’r cymysgedd bolognaise ym mhob croen taten, cymysgwch y gweddill gyda’r cymysgedd tatws a’i roi’n ôl yn y crwyn. Rhowch nhw ar y tun pobi ac ysgeintiwch y caws wedi gratio ar ben y tatws.
5. Rhowch nhw nôl yn y ffwrn am 10-15 munud nes eu bod yn edrych yn grensiog ac yn lliw aur
Ffrio’n sych
Peidiwch ag ychwanegu unrhyw olew neu fraster i ffrio. Dechreuwch ar wres isel a bydd ychydig o fraster a sudd yn dod allan o’r cig, codwch y gwres i frownio’r cig. Mae hyn yn iachach gan eich bod yn defnyddio llai o fraster.
Stwns
Defnyddiwch fforc neu stwnsiwr tatws, gwasgwch y tatws fel eu bod yn llyfn ac ysgafn.