certifications

Cig Coch a Maeth

Mae cig wedi chwarae rhan bwysig yn ein esblygiad ac rydym yn dewis bwyta cig ar gyfer y maeth, y mwynhad, y rhwyddineb a’r cyfleustra gorau posibl.

Gellir disgrifio cig coch fel cig llawn maeth – gan ei fod yn llawn fitaminau a mwynau hanfodol sy’n helpu i hybu iechyd a lles da.

Manteision Iechyd

Gall cig coch fod yn rhan o ddeiet iach. Mae’n ffynhonnell dda o brotein ac yn darparu fitaminau a mwynau hanfodol, fel haearn a sinc. Er mwyn cael deiet iach a chytbwys, dylai pobl geisio bwyta rhai bwydydd sy’n gyfoethog mewn protein (fel cig coch heb fawr o fraster, pysgod neu gorbys) yn ogystal â phrydau sy’n seiliedig ar garbohydradau startsh (yn enwedig mathau grawn cyflawn neu ffibr uwch), bwyta digon o ffrwythau a llysiau, cael rhai bwydydd llaeth braster is neu ddewisiadau llaeth amgen, a dewis olew a thaeniadau annirlawn yn hytrach na dirlawn (symiau bach).

Porwch drwy’r adnoddau isod i ddysgu am y maetholion sydd mewn cig coch.

Angen rhywfaint o help?

Ebost health@hybucig.cymru 

Angen rhywfaint o help? Ebost health@hybucig.cymru