Coginio
Beth am Goginio?
Mae rhai rheolau sylfaenol y dylech eu dilyn cyn dechrau coginio
- Clymwch wallt hir yn ôl.
- Rholiwch lewys hir i fyny.
- Tynnwch pob darn o emwaith a farnais ewinedd.
- Gwisgwch ffedog i amddiffyn eich dillad.
- Golchwch eich dwylo cyn, yn ystod ac ar ôl coginio, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn trin cig amrwd.
- Sicrhewch fod eich holl gynhwysion yn barod a phwyso’r rhain, dyma beth rydych chi ei angen i wneud y rysáit.
- Golchwch yr holl ffrwythau a llysiau yn enwedig cynhwysion salad.
- Estynnwch yr holl offer rydych chi eu hangen yn barod cyn i chi ddechrau.
- Golchwch eitemau miniog ar wahân – peidiwch byth â rhoi cyllyll miniog yn y bowlen golchi llestri, efallai y byddwch chi’n anghofio eu bod nhw yno ac yn brifo eich hun neu rywun arall.
- Cerddwch, peidiwch â rhedeg yn y gegin.
- Peidiwch â gadael yr holl olchi tan y diwedd! Golchwch a sychwch yr arwynebau gwaith wrth i chi fynd yn eich blaen.
- Byddwch yn ofalus gyda chyllyll miniog. Os nad ydych chi wedi arfer defnyddio cyllell gofynnwch i oedolyn eich helpu neu i dorri ar eich rhan, ac i’ ddysgu’r ffordd gywir a diogel i chi dorri a sleisio – gweler isod. Gall plant ifanc gratio nionod/winwns neu foronen yn hytrach na’u torri.
- Wrth ddefnyddio cyllell finiog defnyddiwch y dull cywir ar gyfer y bwyd rydych chi’n ei dorri. Sicrhewch fod llafn eich cyllell yn wynebu i lawr.
Daliad pont
Rhowch yr eitem fel mefus ar y bwrdd torri. Gwnewch bont drosto gyda’ch llaw – dylai eich bysedd fod un ochr a’ch bawd ar yr ochr arall. Tywyswch eich cyllell o dan y bont a thros y bwyd. Pwyswch i lawr a thynnu’r gyllell ar hyd y mefus, efallai yr hoffech feddwl am y gyllell fel trên sy’n mynd o dan y bont! Mae hyn yn addas i dorri pethau fel tatws, tomatos a courgettes.
Y Crafanc
I dorri’r stribedi courgette neu’r bwyd yn dalpiau defnyddiwch y dull crafanc. Rhowch y bwyd ar y bwrdd, gwnewch grafanc gyda’ch llaw drwy gyrlio eich bysedd yn rhannol gyda’i gilydd. Gwyrwch llafn y gyllell i lawr a sleisio drwy’r courgette gan ddefnyddio’ch bysedd/crafanc i ddal y courgette. Llithrwch eich bysedd yn ôl gan gadw gafael ar y bwyd, wrth i chi sleisio i lawr.
Gall plant 3 – 5 mlwydd oed gyda’u synnwyr cyffredin cynyddol, eu gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a deheurwydd ymgymryd ag ystod eang o sgiliau.
Bydd yn dibynnu ar eich gwybodaeth am eich plentyn, gan y gall sgiliau amrywio’n fawr o hyd yn yr oedran hwn.
Nid yw llawer o blant eisiau gwrando ar yr hyn mae mam neu dad yn ei ddweud felly meddyliwch am ddiogelwch yn gyntaf a pheidiwch â cheisio mynd i’r afael ag unrhyw beth rydych chi’n teimlo’n ansicr yn ei gylch.
Gweithgareddau i roi cynnig arnynt gyda phlant 3 – 5 mlwydd oed
- Pwyso – arllwys neu godi cynhwysion â llwy i glorian. Defnyddio llwyau mesur
- Golchi ffrwythau a llysiau
- Torri cynhwysion meddal e.e. menyn, madarch, mefus gan ddefnyddio cyllell blastig gref
- Bara a blawd – gallwch osod tair gorsaf gyda blawd, wy wedi’i guro a briwsion bara ar gyfer bysedd pysgod
- Cymysgu – defnyddio llwy neu ddwylo i gymysgu cynhwysion gyda’i gilydd
- Rhwygo a gwasgu – rhwygo perlysiau a letys neu wasgu ffrwythau
- Hidlo – mae’n well cydbwyso’r hidlwr dros bowlen a’i daro yn hytrach na’i ysgwyd!
- Defnyddio breuan a phestl – mae un pren ysgafn yn well nag un trwm
- Tylino – gall tylino ysgafn fod yn hwyl ond bydd angen i chi gamu i mewn i gwblhau’r dasg
- Rholio, siapio a thorri toes – dewiswch dorrwyr plastig a phin rholio bach
- Taenu – rhoi menyn ar fara a thaenu eisin
- Codennu, pigo a disbeinio – codennu ffa llydan, pigo dail, tomatos neu rawnwin oddi ar y winwydden a disbeinio mefus