Storio a Pharatoi Cig
Cyflwyniad i’r modiwl
Nod y modiwl hwn yw helpu disgyblion i ddeall sut mae bwyd yn cael ei storio’n ddiogel, sut i baratoi a choginio cig i’w fwyta, beth sy’n digwydd i gig pan fydd yn cael ei goginio a sut y gallwn freuo cig.
Mae angen storio a pharatoi’r holl fwyd yn ddiogel. Mae datblygiadau newydd o ran cadw a phecynnu cig wedi arwain at fwy o amrywiaeth ac ystod o gig ffres a chynhyrchion cig.
Gall cadw a phecynnu helpu i atal dirywiad bwyd a gwenwyn bwyd. I ddefnyddwyr doeth, mae hyn yn ddarbodus ac mae hefyd yn lleihau gwastraff bwyd.
Bydd gwybodaeth gadarn am wahanol dechnegau paratoi a choginio ar gyfer cig hefyd yn gwella ansawdd a blas cynhyrchion a phrydau bwyd.
Mae’r modiwl hwn yn esbonio’r gwahanol ddulliau o gadw bwyd, a sut mae’r gwahanol ddulliau yn effeithio ar wead, lliw a blas prydau cig.
Negeseuon Allweddol
Mae negeseuon allweddol y modiwl yn cynnwys:
- Mae cadw bwyd yn bwysig er mwyn cynyddu oes silff cynhyrchion.
- Mae oes silff yn dibynnu ar: ddŵr; asidedd; trin hylan; dulliau cadw.
- Darfudiad yw lle mae cerrynt aer poeth neu hylif poeth yn trosglwyddo’r egni gwres i’r bwyd.
- Dargludiad yw lle mae gwres yn cael ei drosglwyddo drwy wrthrychau solet drwy fywiogi moleciwlau wedi’u gwresogi.
- Ymbelydredd yw lle mae gwres yn cael ei drosglwyddo o ffynhonnell wres ar ffurf pelydrau sy’n teithio’n gyflym mewn llinellau syth.
- Gellir breuo cig drwy weithredu corfforol, ensymau neu asidau a marinadau.
- Mae cig yn newid lliw wrth baratoi bwyd pan fydd y pigment myoglobin yn newid.
Gweithgareddau ystafell ddosbarth a awgrymir
- Edrychwch ar y cyflwyniad powerpoint – storio, paratoi a choginio cig.
- Yna defnyddiwch y powerpoint i gwblhau’r daflen waith – Storio, Paratoi a choginio cig – mae taflen atebion athrawon hefyd wedi’i chynnwys.
- Trafodwch y ddogfen – Newidiadau sy’n digwydd pan fyddwch chi’n coginio cig – mae hyn yn esbonio sut mae’r protein yn cael ei annaturioli, sut mae colagen yn meddalu a’r adwaith maillard.
- Taflenni gwaith eraill
- Gweithgaredd 1, taflen gwestiynau a taflen wybodaeth ateb ar – Pa fath o gadwraeth bwyd ydyw?
- Gweithgaredd 2 – taflen waith ar Goginio gyda chig coch – gofyn i ddisgyblion nodi pa ddull o drosglwyddo gwres a ddefnyddir i goginio’r cig, Dargludiad, Darfudiad neu Ymbelydredd?
- Gweithgaredd 3- edrych ar ddulliau o freuo cig. Mae’n cynnwys gwybodaeth am wahanol ddulliau o freuo cig ac yna gweithgaredd disgyblion.