Cardiau Gwybodaeth a Ryseitiau Athletwyr Cymru
Cyflwyniad i’r Modiwl
Yn ddiweddar, fe wnaethom partneri gydag Athletau Cymru, gan weithio gyda llu o athletwyr elitaidd o Gymru i dynnu sylw at bwysigrwydd bwyta diet cytbwys, sy’n cynnwys Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Ynghyd ag Adele Nicoll (sledio a taflu maen), Hannah Brier (sbrintiwr), Aled Davies (taflu discen a taflu maen) ac Osian Jones (taflu morthwyl), fe wnaethom greu cyfres o gardiau Gwybodaeth a Ryseitiau yn amlinellu eu llwyddiannau, pwysigrwydd bwyta diet cytbwys ac yn cynnwys eu hoff rysáit Cig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru.
Gweithgareddau Awgrymedig yn yr Ystafell Ddosbarth
- Anogwch eich disgyblion i ymchwilio diet athletwr proffesiynol, gan ganolbwyntio ar faetholion pwysig a sut i gael diet cytbwys, yn seiliedig ar chwaraeon yr athletwyr a ddewiswyd. Gofynnwch i’ch myfyrwyr gynhyrchu cyflwyniad PowerPoint i ddangos eu hymchwil.
- Ymchwiliwch i ddiet athletwr proffesiynol a gofynnwch i’ch myfyrwyr greu rysáit ar gyfer yr athletwr o’u dewis.