certifications

Coginio

Beth am Goginio?

Mae rhai rheolau sylfaenol y dylech eu dilyn cyn dechrau coginio

  • Clymwch wallt hir yn ôl.
  • Rholiwch lewys hir i fyny.
  • Tynnwch pob darn o emwaith a farnais ewinedd.
  • Gwisgwch ffedog i amddiffyn eich dillad.
  • Golchwch eich dwylo cyn, yn ystod ac ar ôl coginio, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn trin cig amrwd.
  • Sicrhewch fod eich holl gynhwysion yn barod a phwyso’r rhain, dyma beth rydych chi ei angen i wneud y rysáit.
  • Golchwch yr holl ffrwythau a llysiau yn enwedig cynhwysion salad.
  • Estynnwch yr holl offer rydych chi eu hangen yn barod cyn i chi ddechrau.
  • Golchwch eitemau miniog ar wahân – peidiwch byth â rhoi cyllyll miniog yn y bowlen golchi llestri, efallai y byddwch chi’n anghofio eu bod nhw yno ac yn brifo eich hun neu rywun arall.
  • Cerddwch, peidiwch â rhedeg yn y gegin.
  • Peidiwch â gadael yr holl olchi tan y diwedd! Golchwch a sychwch yr arwynebau gwaith wrth i chi fynd yn eich blaen.
  • Byddwch yn ofalus gyda chyllyll miniog. Os nad ydych chi wedi arfer defnyddio cyllell gofynnwch i oedolyn eich helpu neu i dorri ar eich rhan, ac i’ ddysgu’r ffordd gywir a diogel i chi dorri a sleisio – gweler isod. Gall plant ifanc gratio nionod/winwns neu foronen yn hytrach na’u torri.
  • Wrth ddefnyddio cyllell finiog defnyddiwch y dull cywir ar gyfer y bwyd rydych chi’n ei dorri. Sicrhewch fod llafn eich cyllell yn wynebu i lawr.

Daliad pont

Rhowch yr eitem fel mefus ar y bwrdd torri. Gwnewch bont drosto gyda’ch llaw – dylai eich bysedd fod un ochr a’ch bawd ar yr ochr arall. Tywyswch eich cyllell o dan y bont a thros y bwyd. Pwyswch i lawr a thynnu’r gyllell ar hyd y mefus, efallai yr hoffech feddwl am y gyllell fel trên sy’n mynd o dan y bont! Mae hyn yn addas i dorri pethau fel tatws, tomatos a courgettes.

Y Crafanc

I dorri’r stribedi courgette neu’r bwyd yn dalpiau defnyddiwch y dull crafanc. Rhowch y bwyd ar y bwrdd, gwnewch grafanc gyda’ch llaw drwy gyrlio eich bysedd yn rhannol gyda’i gilydd. Gwyrwch llafn y gyllell i lawr a sleisio drwy’r courgette gan ddefnyddio’ch bysedd/crafanc i ddal y courgette. Llithrwch eich bysedd yn ôl gan gadw gafael ar y bwyd, wrth i chi sleisio i lawr.

Ynghyd â’r sgiliau a awgrymir ar gyfer plant 3-5 a 5-7 mlwydd oed, gallwch nawr gyflwyno eich plentyn i dechnegau ac offer mwy cymhleth. 

  • Gallwch feddwl am brynu cyllell i’ch plentyn wedi’i dylunio ar gyfer cogyddion ifanc neu ddefnyddio cyllell oedolyn fach.
  • Pan fyddwch yn cyflwyno offer torri miniog fel cyllyll a siswrn, dylech ystyried allu eich plentyn bob amser ac os nad ydych yn gyfforddus, yna gadewch ef am gyfnod. Mae sgiliau eraill mwy cymhleth y gallant eu mwynhau o hyd. Os ydych chi’n meddwl y gallan nhw ymdopi yna cadwch lygad arnyn nhw gan ei bod hi’n hawdd iawn llithro hyd yn oed i oedolion.

Gweithgareddau i roi cynnig arnynt gyda phlant ifanc 8 – 11 mlwydd oed

  • Cynllunio pryd y teulu
  • Dilyn rysáit syml
  • Dod o hyd i gynhwysion yn y cypyrddau a’r oergell
  • Defnyddio pliciwr
  • Chwipio, defnyddio chwisg balŵn neu gymysgydd llaw
  • Defnyddio gwres ar hob, popty a microdon
  • Gwneud saladau
  • Agor caniau

Cyflwynwch eich plant yn raddol i’r uchod a gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r peryglon dan sylw. Mae toriadau a llosgiadau yn gyffredin yn y gegin felly cadwch lygad arnynt bob amser. Pa mor alluog bynnag y byddant, mae’n hawdd i’w sylw gael ei dynnu neu geisio rhuthro gweithgaredd.

Cawl Cig Oen Cymru