certifications

Bwyta’n Iach

Mae gofynion deietegol plant a phlant bach cyn oed ysgol yn wahanol i blant hŷn. Mae plant cyn oed ysgol mewn oedran pan fyddant yn tyfu’n gyflym ac yn tueddu i fod yn actif iawn felly maen nhw angen bwydydd maethol ddwys i roi’r protein, y fitaminau a’r mwynau sydd eu hangen ar eu cyrff i roi egni iddynt a’u helpu i dyfu a datblygu.

Dylid dilyn model Canllaw Eatwell ar gyfer plant o 5 mlwydd oed.

Bwyta’n Dda. Teimlo’n Dda.

Nid oes unrhyw un bwyd yn cynnwys yr holl faethynnau (da) rydyn ni eu hangen i fod yn iach. Felly ceisiwch fwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd bob dydd a mwy o rai mathau nag eraill:

Felly ceisiwch fwyta:

  • Digon o ffrwythau a llysiau – anelwch am 5 y dydd.
  • Digonedd o fwydydd startsh fel bara, pasta, tatws, grawnfwydydd a reis.
  • Rhywfaint o gig, pysgod, wyau, ffa a chorbys fel ffacbys.
  • Rhywfaint o laeth a bwydydd llaeth fel caws ac iogwrt.
  • Dim ond ychydig o fwydydd a diodydd sy’n uchel mewn braster a /neu siwgr. Gallwch ddal i gael pethau fel siocled, creision, cacennau, bisgedi a losin ond ddim yn rhy aml.

Mwy o awgrymiadau da!

  • Mwynhewch eich bwyd – mae coginio’n hwyl a dylech fwynhau treulio amser yn ei fwyta a rhoi cynnig ar bethau newydd.
  • Yfwch ddigon o hylifau fel dŵr, llaeth, te heb ei felysu, gwydr y diwrnod o sudd ffrwythau pur neu smwddi.
  • Bwyta ‘prydau maint fi’. Ni ddylai plant ifanc fod yn bwyta’r un faint o fwyd â’u brawd neu chwaer hŷn na’u rhieni.
  • ‘Amser bwyd’, bwyta 3 phryd rheolaidd y dydd a pheidio â methu brecwast. Hefyd dewiswch fyrbrydau iach – rhowch gynnig ar ein brechdanau defaid ciwt!
  • Mae cig coch heb fawr o fraster yn cynnwys haearn sy’n helpu i gadw’r gwaed yn iach ac mae’n ffynhonnell dda o brotein sy’n eich helpu i dyfu. Dylech hefyd geisio bwyta pysgod olewog unwaith yr wythnos.
  • ‘I fyny ac o gwmpas’, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cadw’n heini – gwnewch amser ar gyfer rhywfaint o ymarfer corff, cael gêm o bêl-droed yn yr ysgol neu ar ôl ysgol neu fynd i nofio gyda’ch teulu neu hyd yn oed fynd am dro. Dewch o hyd i weithgaredd rydych chi’n ei fwynhau a cheisiwch gael hwyl yn cadw’n heini gyda’ch ffrindiau cŵl – byddwch chi’n teimlo’n fwy heini a bydd gennych chi fwy o egni!
  • Wrth goginio a bwyta ceisiwch beidio ag ychwanegu unrhyw halen ychwanegol at eich bwyd.

Adnoddau Bwyta’n Iach