ryseitiau
Katsu Cig Eidion Cymru
0:35 4
cynhwysion
- 4 stecen Cig Eidion Cymru PGI, wedi’i sleisio yn denau
- 75g o flawd plaen, wedi’i flasuso
- 1 wy mawr, wedi’i guro
- 75g o friwsion bara panko (neu gallwch wneud eich briwsion bara eich hun)
- 25g o friwsion bara euraid
- Olew ar gyfer ffrio bas
Ar gyfer y saws
- 1 llwy de o olew llysiau
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
- 2.5cm o wreiddyn sinsir ffres, wedi’i gratio
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 llwy fwrdd o bowdr cyrri cymedrol ei sbeis
- 2 lwy fwrdd o flawd plaen
- 250ml o stoc cyw iâr
- 1 llwy fwrdd o saws soi
- 1 llwy fwrdd o fêl
Mae’r katsu Cig Eidion Cymru yma yn rysáit gymharol hawdd i’w wneud a trwy ddefnyddio Cig Eidion Cymru, mae hefyd yn addas i’w wneud o fewn gwers 50 munud .
Mae’r rysáit hon ar flaen y gad ac yn rhoi cyfle gwych i’ch ddisgyblion ymarfer eu sgiliau cyflwyno.
Sgiliau a ddysgwyd:
- Torri
- Ffrio sych
- Gwneud saws
- Cyflwyno
- Gorchuddio mewn briwsion bara