ryseitiau
Parseli Tikka Cig Oen Cymru
0:10 2
cynhwysion
- 225g (8oz) stêc coes Cig Oen Cymru wedi ei thorri’n dafelli tenau iawn
- 5ml (1llwy de) olew
- ½ planhigyn wy (aubergine), wedi ei dorri’n dafelli tenau
- 1 winwnsyn, wedi ei dorri’n dafelli tenau
- 3 madarch, wedi eu tafellu
- 15ml (1 llwy fwrdd) pâst cyrri ysgafn
- 15ml (1 llwy fwrdd) siytni mango
- 1 tomato, wedi ei thafellu’n denau
- Dyrnaid o ddail coriander ffres, wedi eu malu
- 2 barsel tortilla blaw
- Twymwch yr olew mewn padell sydd ddim yn glynu neu wok. Ychwanegwch y stribedi oen, y planhigyn wy, yr winwnsyn a’r madarch a thro-ffriwch nhw nes bod y cig yn frown. Dylai hyn gymryd tua 6 munud.
- Ychwanegwch y pâst cyrri a’r siytni mango, trowch a choginiwch am 2 funud arall.
- Ychwanegwch y tomato a’r coriander.
- Rhowch y gymysgedd ynghanol y parseli, roliwch nhw i fyny a mwynhewch!
Mae TRO FFRIO yn golygu coginio’n gyflym dros wres uchel mewn ychydig iawn o olew, gan droi’n gyson. Ffordd iach o goginio.
Rysait tro ffrio yw hwn y gallech ei weini mewn parseli fel y rysait yma neu gallech ei weini gyda nŵdls neu reis wedi coginio