ryseitiau

Crymbl Cig Oen Cymru

Time 0:45 Serves4

cynhwysion

  • 450g briwgig Cig Oen Cymru
  • 1 winwnsyn, wedi ei blicio a’i dorri’n fân
  • 2 foronen, wedi eu plicio a’u torri’n ddarnau mân
  • 30ml (2 lwy fwrdd) blawd plaen
  • 300ml (½pt) isgell (stock) oen neu lysiau
  • 15ml (1 llwy fwrdd) purée tomato
  • 5ml (1 llwy de) perlysiau cymysg sych
  • ychydig o bupur du mâl

Ar gyfer y crymbl

  • 150g blawd plaen
  • 75g menyn, wedi’i ciwbio
  • 50g ceirch
  • 50g caws cheddar wedi’i gratio
  1. Cynheswch eich ffwrn ymlaen llaw i Nwy 5/190°C.
  2. Rhowch y briwgig mewn sosban sydd ddim yn glynu a ffriwch yn sych am 5-6 munud nes ei fod yn frown.
  3. Ychwanegwch yr winwnsyn a’r moron a ffriwch am 3 munud arall.
  4. Ychwanegwch y blawd a’i gymysgu’n dda, yna’n araf ychwanegwch yr isgell, y purée tomato, y perlysiau a’r pupur du. Dewch â’r cyfan i’r berw a throi nes ei fod yn drwchus.
  5. Rhowch y gymysgedd mewn dysgl sy’n gallu mynd i’r ffwrn.
  6. Gwnewch y crymbl drwy roi’r blawd mewn powlen, ychwanegwch y menyn a rwbiwch y blawd i mewn. Dylai edrych fel briwsion bara.
  7. Yna ychwanegwch y caws a’r ceirch, cymysgwch yn dda a rhowch y crymbl dros y gymysgedd briwgig.
  8. Coginiwch yn y ffwrn am 25 munud nes ei fod yn lliw aur ac yn grensiog. Mae’r crymbl yn hyfryd gyda phys neu frocoli.

Rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd gyda blaenau’ch bysedd i nweud cymysgedd sy’n edrych fel briwsion bara. Rydych yn gwneud toes fel hyn hefyd. 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am grymbl fel rhywbeth melys fel crymbl afal neu riwbob. Mae gwaelod hwn fel Pastai’r Bugail ond yn lle tatws ar y top rydym wedi gwneud crymbl crensiog o gaws a cheirch.