ryseitiau

Cebabs Cig Oen Cymru

Time 0:10 Serves4

cynhwysion

Ar gyfer y marinad

  • 90ml (6 llwy fwrdd) olew’r olewydd
  • 45ml (3 llwy fwrdd) sudd lemwn
  • 1 ewin garlleg, wedi ei blicio a’i falu’n fân
  • Pinsiad da o bupur du mâl
  • 30ml (2 lwy fwrdd) perylsiau ffres wedi eu torri’n fân, fel basil

Ar gyfer y cebabs

  • 450g Cig Oen Cymru, wedi ei dorri’n giwbiau 3cm (mae stêcs coes heb asgwrn yn ddelfrydol)
  • Gwahanol lysiau o’ch dewis chi, fel ddefnyddion ni:
  • 2 courgette tenau
  • 1 planhigyn wy (aubergine) hir a thenau
  • 16 tomato bach
  • 1 pupur coch
  • 1 pupur melyn
  1. Mewn dysgl fach cymysgwch gynhwysion y marinad gyda’i gilydd. Ychwnaegwch y ciwbiau cig, trowch yn dda, gorchuddiwch â cling film a rhowch nhw yn y rhewgell am o leia awr.
  2. Paratowch y llysiau, torrwch y puprau yn sgwariau 3cm, golchwch y tomatos. Tafellwch y courgettes a’r planhigyn wy ar eu hyd i wneud stribedi hir, ceisiwch eu torri’n weddol denau, tua 5mm o drwch. Rydych am i’r stribedi fod yn ddigon hir i’w lapio o amgylch ciwb o gig, trimiwch y stribedi i’r maint cywir.
  3. Tynnwch y cig o’r marinad a’i roi ar blât.
  4. Lapiwch rai o’r ciwbiau oen gyda’r darnau courgette a’r lleill gyda’r tafelli planhigyn wy, yna’n ofalus iawn (mae’r gweill yn bigog!) gwthiwch nhw ar y gweill, yna ychwanegwch y tomatos a’r pupurau fel eu bod yn edrych yn ddeniadol ac yn lliwgar.
  5. Cynheswch y gril ymlaen llaw, rhowch nhw ar y badell grilio a’u brwsio gyda’r marinad. (Gallwch eu coginio ar farbeicw hefyd).
  6. Coginiwch nhw am tua 10 munud, a’u troi nhw bob hyn a hyn i wneud yn siwr eu bod wedi coginio’n gyson

Gweinwch y cebabs gyda cholslo ffrwythau, sydd mor hawdd i’w wneud. Byddwch angen 450g (1lb) bresychen wedi ei thorri’n stribedi tenau, 1 winwnsyn bach wedi ei dorri’n ddarnau mân iawn, 1 afal wedi ei olchi a’i dorri’n giwbiau bach (gadewch y croen gan ei fod yn lliw hardd), 175g (6oz) moron wedi eu gratio, 150ml (5 fl oz) mayonnaise a dyrnaid o rawnwin wedi eu golchi a’u torri’n hanner. Cymysgwch bopeth gyda’u gilydd a’i adael yn y rhewgell nes eich bod am ei ddefnyddio.