ryseitiau
Nwdls dwyreniol Cig Eidion Cymru
0:10 2
cynhwysion
- 2 stêcen Cig Eidion Cymru – mae syrlwyn yn ddelfrydol – wedi eu torri’n stribedi tenau
- 15ml (1 llwy fwrdd) olew
- 15 ml (1 llwy fwrdd) saws soi halen isel
- 30 ml (2 lwy fwrdd) mêl gloyw
- 2 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu’n fân
- Amrywiol lysiau dwyrieniol, e.e: 1 bwnsiad o pak choi (neu ½ bresychen werdd grensiog)
- 2 goesyn seleri
- 1 pupur coch
- ¼ ciwcymbyr
- Pecyn o nwdls gwyn canolig wedi eu coginio’n barod (neu berwch nwdls ymlaen llaw)
- 1 leim, y sudd a’r croen wedi gratio
- ychydig o goriander ffres wedi ei falu
- Torrwch y stêcs Cig Eidion Cymru yn stribedi tenau a’u rhoi mewn dysgl fach. Golchwch eich bwrdd torri a’ch cyllell neu defnyddiwch fwrdd a chyllell arall i dorri’r llysiau. Torrwch y pupur yn giwbiau neu stribedi, torrwch y pak choi a’r seleri, torrwch y ciwcymbyr yn stribedi.
- Twymwch eich wok (neu badell ffrio fawr) ymlaen llaw, ychwanegwch yr olew ac yna’r stribedi Cig Eidion Cymru, coginiwch y stribedi am 3 munud, gan droi bob hyn a hyn, ychwanegwch y garlleg a’r llysiau (cadwch y ciwcymbyr tan y diwedd), trowch am 3 munud arall.
- Ychwanegwch y saws soi, y mêl a sudd a chroen y leim – trowch.
- Ychwanegwch y nwdls wedi coginio, y ciwcymbyr a throwch nes bod y cyfan yn grasboeth – ychydig o funudau.
- Gweinwch mewn powlenni unigol ac ysgeintiwch goriander ffres drostynt. Bwytewch gyda fforc neu weill bwyta!