ryseitiau

Pitsas bach hwylus

Time 0:12 Serves4

cynhwysion

  • 2 myffin bara wedi eu torri’n hanner (gallwch ddefnyddio myffins gwyn, cyflawn neu gaws) neu 4 gwaelod pizza bach
  • 30ml (2 lwy fwrdd) purée tomato
  • 15ml (1 llwy fwrdd) sôs coch
  • ½ y cymysgedd bolognaise (ar dudalen 5)
  • 90g caws wedi gratio
  • Gwahanol lysiau i wneud yr wynebau – yd melys, pupur, madarch, courgettes. Gallech chi hefyd ddefnyddio; olifau, darnau o pepperoni, neu ddarnau o gaws mozzarella.

 

  1. Twymwch eich ffwrn i 200˚C Nwy 6.
  2. Mewn dysgl fach cymysgwch y purée tomato a’r sôs coch a thaenwch lwyaid o hwn dros yr haneri myffin.
  3. Rhowch lwyaid o’r cymysgedd bolognaise wedi oeri ar ben y cymysgedd tomato a thaenwch yn ofalus.
  4. Ysgeintiwch y caws dros y bolognaise.
  5. Defnyddiwch y cynhwysion eraill i wneud eich wynebau doniol neu anifeiliaid – mae olifau wedi eu tafellu yn gwneud llygaid da, neu stribedi tenau o bupur i wneud mwng llew neu wallt.
  6. Rhowch nhw’n ofalus ar dun pobi a’u coginio yn y ffwrn nes bod y caws yn byrlymu – 10-12 munud.