ryseitiau

Bolognaise Cig Eidion Cymru mewn tatws trwy’u crwyn

Time 1:30 Serves4

cynhwysion

Cymysgedd Bolognaise

  • 450g (1lb) briwgig Cig Eidion Cymru
  • 2 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu’n fân
  • 1 winwnsyn, wedi ei blicio a’i dorri’n ddarnau mân
  • 400g tun tomatos wedi eu torri
  • 15ml (1 llwy fwrdd) purée tomato neu 30ml (2 lwy fwrdd) sôs coch
  • 150ml (1/4pt) isgell (stock) eidion neu lysiau
  • 5ml (1 llwy de) perlysiau cymysg Pinsiad o bupur du

Tatws

  • 4 taten fawr, tua 250g yr un
  • 50g menyn
  • Pinsiad o bupur du
  • ½ y cymysgedd bolognaise 120g caws wedi gratio

Cymysgedd Bolognaise sylfaenol

 I ddechrau mae’n rhaid i chi wneud y Bolognaise Cig Eidion. Amser coginio 20-25 munud, (yna oeri ychydig cyn defnyddio).

  1. Rhowch y briwgig mewn sosban sydd ddim yn glynu neu wok a ffriwch yn sych am 6 munud, nes ei fod yn frown.
  2.  Ychwanegwch y winwns a’r garlleg a choginiwch am rai munudau eto.
  3. Ychwanegwch y tomatos, purée neu sôs coch, isgell, perlysiau a’r pupur.
  4. Coginiwch yn araf dros wres isel am 15 munud.
  5. Gallech ei weini gyda spaghetti fel spaghetti bolognaise neu oeri’r cymysgedd ychydig i wneud pizzas bach neu datws drwy’u crwyn bolognaise.

Tatws try’u crwyn cawsiog

 Yn gwneud 8 taten bôb, amser coginio 60-80 munud i’r tatws, 10-15 munud i orffen.

1. Twymwch eich ffwrn i Nwy 6/200°C.

2. Golchwch y tatws a’u pricio gyda fforc, rhowch nhw ar dun pobi a’u coginio yn y ffwrn nes eu bod wedi pobi – dylent fod yn feddal y tu mewn gyda chrwyn crensiog (tua 60-80 munud).

3. Oerwch nhw ychydig, torrwch nhw’n hanner a gan ddefnyddio llwy, rhowch y tu mewn meddal mewn dysgl fawr. Falle byddwch angen maneg ffwrn i ddal y daten.

4. Stwnsiwch y tatws, ychwanegwch y menyn a’r pupur du. Rhowch lwyaid o’r cymysgedd bolognaise ym mhob croen taten, cymysgwch y gweddill gyda’r cymysgedd tatws a’i roi’n ôl yn y crwyn. Rhowch nhw ar y tun pobi ac ysgeintiwch y caws wedi gratio ar ben y tatws.

5. Rhowch nhw nôl yn y ffwrn am 10-15 munud nes eu bod yn edrych yn grensiog ac yn lliw aur

 

Ffrio’n sych

Peidiwch ag ychwanegu unrhyw olew neu fraster i ffrio. Dechreuwch ar wres isel a bydd ychydig o fraster a sudd yn dod allan o’r cig, codwch y gwres i frownio’r cig. Mae hyn yn iachach gan eich bod yn defnyddio llai o fraster.

Stwns

Defnyddiwch fforc neu stwnsiwr tatws, gwasgwch y tatws fel eu bod yn llyfn ac ysgafn.