Byrgyrs Pry Cop Pryfoclyd
cynhwysion
- 450g (1lb) briwgig Cig Eidion Cymru
- 1 winwnsyn bach, wedi ei dorri’n ddarnau mân
- 5ml (1 llwy de) perlysiau cymysg sych neu gallwch ddefnyddio dyrnaid o berlysiau ffres wedi eu malu
- pinsiad o bupur du mâl
- ½ pupur coch, wedi ei dorri’n ddarnau bach iawn
- 30ml (2 lwy fwrdd) sôs coch neu sôs brown
Dip bricyll a cyrri hufennog
- 1 pot bach o iogwrt blaen
- 15ml (1 llwy fwrdd) o siytni mango
- 5ml (1 llwy de) o powdwr cyrri ysgafn
- 4 bricellyn sych wedi eu torri’n ddarnau mân
1. Rhowch y cynhwysion uchod i gyd mewn powlen fawr a chymysgwch nhw’n dda gya’ch dwylo, gan wneud yn siwr bod y llysiau wedi eu cymysgu yn y cig.
2. Rhannwch y cymysgedd yn 6 a’u ffurfio’n byrgyrs.
3. Coginiwch nhw o dan y gril neu ar dun pobi mewn ffwrn boeth neu badell ffrio, gan eu troi nhw unwaith, nes eu bod yn frown ac yn grasboeth yn y canol.
4. I wneud y pry cop, defnyddiwch stribedi tenau o bupur, moron neu giwcymbyr i’r coesau a’u gwthio i mewn i’r byrgyr wedi coginio, gallwch ddefnyddio darnau o bupur neu domatos ac olifau i’r ceg a’r llygaid.
5. I wneud y dip, mewn dysgl fach cymysgwch yr iogwrt gyda’r powdwr cyrri, yna ychwanegwch y bricyll a’r siytni mango. Gorchuddiwch y ddysgl a’i chadw yn y rhewgell.
Gall rhein cael eu weini mewn bap gyda salad a llwyaid o’r dip cyrri hufennog, neu am hwyl – beth am eu troi’n bryfed cop dychrynllyd neu hapus?!