ryseitiau

Risotto porc, madarch ac asbaragws

Time 0:30 Serves2

cynhwysion

  • 225g o ffiled porc coch, wedi ei dorri’n stribedi tenau
  • 1 llwyaid de olew
  • 1 nionyn wedi’i dorri
  • 150g reis risotto (arborio)
  • 50g fadarch cymysg
  • pupur du
  • 100g o asbaragws, wedi’u torri’n ddarnau mawr
  • dail roced
  • 600ml o stoc porc

Offer

  • Bwrdd torri (i’r cig amrwd)
  • Cyllell miniog
  • Bwrdd torri (i’r llysiau)
  • Llwy bren
  • Jwg mesur
  • Dysgl weini
  1. Cynheswch 1 llwyaid de o olew mewn sosban a ffrio’r porc gyda’r nionyn a’r reis am 2-3 munud.
  2. Ychwanegwch y madarch cymysg a’r stoc, a’i godi i’r berw, ychwanegwch halen a phupur a’i fudferwi’n araf am oddeutu 30 munud neu nes bod y reis yn barod a’r holl hylif wedi’i amsugno. (Ychwanegwch fymryn rhagor o stoc os dymunwch i gael y trwch iawn).
  3. Ychwanegwch yr asbaragws a rhowch ddail roced drosto a’i weini. Gweinwch gyda chwlffyn o fara crystiog os oes angen.

Ffeithiau 

Mae porc heb lawer o fraster yn ddewis da ar gyfer y risotto gan ei fod yn gwneud pryd iach a chytbwys. Dim ond 4g o fraster fesul 100g o gig y mae porc heb lawer o fraster yn ei gynnwys.