ryseitiau

Pastai’r bugail â sbeis Morocaidd

Time 1:00 Serves4

cynhwysion

  • 450g o friwgig Cig Oen Cymru PGI coch
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 1 ewin garlleg, wedi’i wasgu
  • 1 nionyn mawr, wedi’i dorri’n fân
  • 2 foronen, wedi’u plicio a’u deisio’n fân
  • 1 llwy de o gwmin
  • 1 llwy de o bupur Jamaica
  • 1 llwy de o goriander mâl
  • 1 llwy de o sinamon mâl
  • ½ llwy de o hadau ffenigl
  • 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
  • 1 llwy fwrdd o flawd
  • ½ peint o stoc llysiau neu gig oen (efallai y bydd angen mwy)
  • 25g o gnau pinwydd (dewisol)
  • Persli wedi’i dorri i weini (dewisol)

Ar gyfer y tatws:

  • 400g o datws ar gyfer berwi, wedi’u plicio a’u chwarteru
  • 200g o datws melys, wedi’u plicio a’u chwarteru
  • 50g o fenyn
  • Ychydig o laeth neu hufen
  • Halen a phupur

Offer

  • Sosban gyda chaead
  • Padell ffrio neu sosban fawr
  • Dysgl pei
  • Cyllell miniog
  • Bwrdd torri llysiau
  • Pliciwr tatws
  • Llwy a llwy bren
  • Fforch neubag peipio a ffroenell
  1. Berwch y tatws ac, wrth iddynt ferwi, paratowch y gymysgedd cig.
  2. Mewn padell boeth, ffriwch y briwgig, y nionyn a’r garlleg nes maent wedi brownio. Ychwanegwch y sbeisys a chymysgwch yn dda cyn ychwanegu’r moron a’r blawd – coginiwch am ychydig funudau yna ychwanegwch y stoc a’r piwrî. Ychwanegwch y cnau pinwydd.
  3. Coginiwch am 20 munud yna trosglwyddwch i ddysgl bastai.
  4. Pan fydd y tatws yn feddal, draeniwch ac ychwanegwch yr halen a’r pupur, y menyn a’r llaeth. Stwnsiwch nes maent yn hufennog.
  5. Codwch y tatws â llwy ar y gymysgedd cig neu gallwch ei beipio. Coginiwch yn y popty am 15 munud arall nes mae’r tatws wedi brownio.

Ffeithiau

Mae cig oen yn ffynhonnell gyfoethog o fitamin B12. Mae fitamin B12 yn cefnogi metaboledd arferol sy’n cynhyrchu ynni, ac yn cyfrannu at swyddogaeth arferol y system imiwnedd. Mae fitamin B12 hefyd yn helpu i leihau blinder.

Trwy beipio’r tatws byddwch yn dangos mwy o sgil.