certifications

Cig Coch ac Iechyd

Dewch i ddarganfod cyfres o daflenni ffeithiau sy’n darparu gwybodaeth gywir am y berthynas rhwng cig coch, iechyd a maeth.

Mae cig yn cael ei fwyta gan bron i 98% o’r boblogaeth y DU. Mae  chig coch yn ddewis poblogaidd ac yn ffynhonnell werthfawr o brotein, haearn, sinc, fitaminau B, fitamin D, seleniwm ac ïodin. Cydnabyddir bod y maetholion hyn yn chwarae rhan bwysig mewn lles ond cynghorir y cyhoedd yn aml i ‘dorri i lawr’ ar gig coch am resymau iechyd neu i ddiogelu’r amgylchedd.

Beth mae hyn i gyd yn ei olygu i’n dietau a faint o gig coch yw’r swm cywir?

Mathau o Gig

Mae cig coch yn aml yn cael ei gategoreiddio fel cig ffres/heb ei brosesu neu wedi ei brosesu a gall hyn achosi rhywfaint o ddryswch.

Beth yw cig heb ei brosesu?

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio cig coch fel cig cyhyrau mamalaidd heb ei brosesu, h.y. cig eidion, cig llo, porc, cig oen, mwtanton, ceffyl a chig gafr (wedi’I droi’n friwgig a’i rewi). Byddai selsig a byrgyrs Prydeinig yn cael eu cynnwys yn y categori hwn gan eu bod yn cael eu gwneud o gig ffres heb fawr o brosesu.

Beth yw cig wedi ei brosesu?

Diffinnir cig wedi’i brosesu fel cig sydd wedi’i drawsnewid drwy halltu, curo, eplesu, ysmygu, neu brosesau eraill i wella blas neu wella cadwraeth. Byddai selsig Ewropeaidd yn cael eu cynnwys yn y categori hwn gan eu bod fel arfer yn cael eu curo neu ysmygu sy’n newid y cig ac yn ymestyn oes y silff.

Porwch drwy’r adnoddau isod i ddysgu am y maetholion sydd mewn cig coch.

Adnoddau