certifications

O ble mae bwyd yn dod?

Mae ffermio da byw ar gyfer cynhyrchu cig wedi bod yn ddiwydiant sefydledig yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Dros y blynyddoedd mae technegau ffermio wedi’u newid a’u moderneiddio. Mae iechyd a lles anifeiliaid, a chynaliadwyedd yn parhau i fod yn flaenoriaethau uchel i ffermwyr.

Mae anifeiliaid wedi cael eu bridio i gynhyrchu cig heb ormod o fraster sy’n cael effaith gadarnhaol ar ein diet a’n hiechyd.

Mae’r adran hon yn cynnwys trosolwg o wybodaeth ar sut mae gwartheg, moch a defaid yn cael eu ffermio.

Cyflwyniad Ystafell Ddosbarth